CY1753: Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1753
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Llion Roberts
Semester Double Semester
Academic Year 2020/1

Outline Description of Module

Mae’r gallu i gynhyrchu dogfennau ysgrifenedig perthnasol yn sgil pwysig ar gyfer eich cwrs gradd ac ar gyfer y gweithle. Nod y modiwl hwn yw rhoi’r cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth am wahanol fathau o ysgrifennu a chyflwyno gwybodaeth mewn cyd-destun creadigol a phroffesiynol. Drwy wneud hynny cewch feithrin hyder pellach wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ysgrifenedig.

Yn ystod y modiwl byddwch yn dysgu am gynnwys a chrefft gwahanol arddulliau ysgrifennu, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer sefyllfaoedd proffesiynol a chreadigol. Bydd pwyslais ymarferol ar ddarllen gwahanol destunau byrion yn feirniadol cyn mynd ati i gynhyrchu testunau ysgrifenedig mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd y testunau yn amrywiol eu natur a’u ffurf, gan gynnwys llenyddiaeth, adroddiadau a deunydd a gynhyrchir ar gyfer gwefannau, er enghraifft.

Byddwch yn parhau i ddatblygu eich gwybodaeth am iaith, arddull a chrefft trwy ganolbwyntio ar yr adborth a roddir ichi, a bydd disgwyl ichi ddefnyddio’r adborth wrth fyfyrio ar brosesau cynhyrchu testun a datblygu cynnwys ac arddull eich gwaith.

Bwriad y modiwl hwn yw datblygu eich dealltwriaeth o nodweddion ysgrifennu effeithiol ochr yn ochr â’r modiwlau eraill y byddwch yn eu hastudio yn y Gymraeg er mwyn meithrin eich sgiliau ysgrifenedig creadigol a phroffesiynol.

On completion of the module a student should be able to

  1. amlygu dealltwriaeth ymarferol o nodweddion ysgrifennu effeithiol (cynnwys a chrefft) drwy ddarllen testunau yn feirniadol a llunio ymarferion penodol
  2. cynhyrchu amrywiaeth o destunau addas i gyd-destunau proffesiynol a chreadigol
  3. datblygu ymwybyddiaeth o’r cyd-destun y llunnir testunau ynddo, ynghyd â chonfensiynau cydnabyddedig sy’n addas ar gyfer gwahanol fathau o ysgrifennu
  4. gweithio’n effeithiol drwy adfyfyrio ar brosesau cynhyrchu testun ac ymateb i adborth ar dasgau er mwyn caboli a datblygu testunau
  5. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig mewn gwahanol gyd-destunau wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.

 

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyriwr nodweddiadol yn gallu

Medrau Academaidd

  • cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
  • adnabod nodweddion a chonfensiynau llenyddol a thestunol gwahanol fathau o ysgrifennu ar sail ystod o destunau cynradd ac eilaidd
  • hogi sgiliau ysgrifennu drwy elwa ar dderbyn adborth ar waith a datblygu arno

Medrau penodol y pwnc

  • dangos dealltwriaeth o sgiliau darllen, dehongli a chynhyrchu testunau proffesiynol a chreadigol o safbwynt cynnwys a chrefft
  • ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn testunau
  • dangos ymwybyddiaeth o ofynion iaith a mynegiant wrth ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau

Medrau Cyflogadwyedd

  • datblygu sgiliau ysgrifennu effeithiol, ynghyd â chyfoethogi dealltwriaeth o brosesau cynnydd cydnabyddedig, megis drafftio, golygu ayb
  • datblygu sgiliau darllen a thrafod (ar lafar ac ysgrifenedig) wrth ymdrin â thestunau a thystiolaeth
  • crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau gwahanol ac ymdrin â hwy yn ddadansoddol
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig mewn gwahanol ffurfiau a chyweiriau

 

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar mewn sesiynau trafod a derbyn adborth ar dasgau ysgrifenedig cyson. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.

Crynodol

Mae’r asesiadau gwaith cwrs (ffolio hyd at 800 gair a ffolio hyd at 1600 gair) yn mesur sgiliau testunol, creadigol ac ieithyddol y myfyrwyr wrth gynhyrchu casgliad o destunau proffesiynol a chreadigol gwreiddiol ar sail darllen beirniadol ac ymarferion penodol (Deilliannau 1-5).

Mae’r adroddiad adfyfyriol (hyd at 600 gair) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gnoi cil ar eu prosesau testunol, creadigol ac academaidd ac elwa ar adborth ar drafodaethau ac ar dasgau (Deilliannau 4, 5).

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailgyflwyno.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 30 Casgliad (Ffolio) O Destunau Creadigol A Phroffesiynol - Semester 1 N/A
Written Assessment 20 Adroddiad Adfyfyriol N/A
Written Assessment 50 Casgliad (Ffolio) O Destunau Creadigol A Phroffesiynol - Semester 2 N/A

Syllabus content

  • nodweddion gwahanol fathau o ysgrifennu o fewn cyd-destunau creadigol a phroffesiynol
  • darllen yn feirniadol a chynhyrchu testunau o fewn cyd-destunau creadigol a phroffesiynol a chreadigol megis:
  • testun newyddiadurol a/neu ddatganiad i'r wasg
  • deunydd a gynhyrchir ar gyfer y we, megis blogiau
  • portread o unigolyn neu leoliad
  • testun hunangofiannol
  • testun creadigol wedi ei ysbrydoli gan ffurf greadigol arall (e.e. llun, darn llenyddol, cerddoriaeth)

Essential Reading and Resource List

 

Deunyddiau Darllen a Rhestr Adnoddau:

[2020] O’r Pedwar Gwynt. [Ar-lein]. Ar gael: https://pedwargwynt.cymru/

Bishop, Wendy. 2006. Keywords in Creative Writing. Utah: University Press of Colorado [mynediad ar-lein drwy gatalog llyfrgelloedd y Brifysgol]

Benson, Stephen and Connors, Clare. eds. 2014. Creative Criticism: An Anthology and Guide. Edinburgh: Edinburgh University Press [mynediad ar-lein drwy gatalog llyfrgelloedd y Brifysgol]

Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2016. Esboniadur Beirniadaeth a Theori. [Ar-lein]. Ar gael: https://wici.porth.ac.uk/index.php/Categori:Beirniadaeth_a_Theori

Darnton, John. gol. 2001. Writers on Writing: collected essays from the New York Times. New York: Times Books

Hughes, J. Elwyn. 1998. Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg. Llandysul: Gomer

Ifans, Rhiannon. 2006. Y Golygiadur. Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion

Norris, Sharon. ed. 2013. Studying Creative Writing. Newmarket: Professional and Higher Partnership [mynediad ar-lein drwy gatalog llyfrgelloedd y Brifysgol]

Thomas, Gwyn. 2015. Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg. Tal-y-bont: Y Lolfa


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855