CY1752: Mapio'r Cymry

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1752
External Subject Code 100333
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Siwan Rosser
Semester Double Semester
Academic Year 2020/1

Outline Description of Module

A oes modd mapio diwylliant? Beth a olygwn pan ddefnyddiwn eiriau cyfarwydd megis ‘unigolyn’, ‘bro’, a ‘chenedl’, a beth yw’r berthynas rhwng y cysyniadau hyn? Sut y mae diwylliant yn ymblethu â daearyddiaeth wrth greu a chynnal hunaniaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol? Sut y mynegir hunaniaeth gan iaith a llenyddiaeth bro, a beth sydd yn digwydd wrth i bobl a thestunau groesi ffiniau?

Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi ar y modiwl hwn wrth inni ystyried ein perthynas â’r gofodau daearyddol gwahanol yr ydym yn byw a bod ynddynt.

On completion of the module a student should be able to

  1. dangos dealltwriaeth o amrywiaeth ddaearyddol, lenyddol a diwylliannol y Cymry.
  2. gallu trafod yn hyderus gysyniadau diwylliannol megis cof, gofod, mynegiant a mapio wrth ymdrin â’r Cymry a’r Gymraeg.
  3. gallu dadansoddi perthynas cysyniadau diwylliannol â chymunedau a hunaniaethau y Gymraeg.
  4. trin testunau amrywiol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth
  5. dangos meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyriwr nodweddiadol yn gallu

Medrau Academaidd

  • cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
  • meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth
  • elwa ar dderbyn adborth ar waith ffurfiannol a datblygu arno

Medrau penodol y pwnc

  • trin tystiolaeth ddiwylliannol yn feirniadol o safbwynt dehongli’r maes
  • trafod yn feirniadol gysyniadau diwylliannol sy’n cyfoethogi dealltwriaeth o hunaniaethau y Cymry

Medrau Cyflogadwyedd

  • datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
  • gweithio mewn grwpiau ac fesul unigolyn wrth drafod testunau a thystiolaeth
  • crynhoi ac arfarnu cysyniadau a safbwyntiau gwahanol ac ymdrin â hwy yn ddadansoddol
  • cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar i drafodaethau yn y dosbarth a rhai tasgau ysgrifenedig. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.

Crynodol

Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin mewn manylder ag agwedd a drafodir ar y modiwl, ynghyd â datblygu eu sgiliau academaidd megis ymchwilio i dystiolaeth a’i dadansoddi. (Deilliannau 1-5)

Mae’r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth o rai meysydd a chysyniadau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas. (Deilliannau 1-5)

Gwaith cwrs - 50% - Prosiect - Hyd at 2000 gair - Semester 1

Arholiad - 50% - 1.5 awr - Semester 2

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailgyflwyno.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Written Assessment 50 Prosiect N/A
Exam - Spring Semester 50 Mapio'R Cymry 1.5

Syllabus content

  • Diwylliant amrywiol ardaloedd a chymunedau’r Gymraeg
  • Iaith a llenyddiaeth bro.
  • Perthynas tir, iaith a chof â chenedlaetholdeb, e.e. yng ngwaith J. R. Jones.
  • Arferion, cof a thraddodiadau gwerin amrywiol ardaloedd, e.e. y Blygain yng nghanolbarth Cymru a’r Fari Lwyd yn ne Cymru.
  • Mapio a gofod fel cysyniad yng ngwaith beirdd a llenorion Cymraeg, e.e. Iwan Llwyd, Angharad Price.
  • Hunaniaethau cymunedau a llenorion y tu hwnt i Gymru, megis y Wladfa.

Essential Reading and Resource List

Davies, Janet. 1999. A Pocket Guide. The Welsh Language. Cardiff: University of Wales Press

James, E.W a Jones, T. Vaughan. 2008. Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar ddiwylliant gwerin. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch

Macdonald, Elvey. 1999. Yr Hirdaith. Llandysul: Gwasg Gomer

Morys, Twm. gol. 2014. Awen Iwan. Tal-y-bont: Cyhoeddiadau Barddas

Owen, Trefor M. 1991. A Pocket Guide: The Customs and Traditions of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Rowlands, John. 1992. Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn. 1989. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg… Cyflwyno’r Tafodieithoedd. Caerdydd: Gwasg Taf

Thomas, M. Wynn. gol. 2001. Gweld Sêr: Cymru a Chanrif America. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855