CY1601: Awdur, Testun a Darllenydd

School Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Department Code WELSH
Module Code CY1601
External Subject Code 101163
Number of Credits 20
Level L4
Language of Delivery Welsh
Module Leader Dr Elen Ifan
Semester Double Semester
Academic Year 2020/1

Outline Description of Module

Beth yw llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol? Pa swyddogaeth sydd gan awdur, testun a darllenydd yn y broses o greu, deall a dadansoddi llenyddiaeth? Sut y mae astudio perthynas yr elfennau hyn â’i gilydd yn ein galluogi i ganfod ystyron newydd neu gynnig dehongliadau amgen wrth drafod testunau llenyddol? Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu holi er mwyn dysgu sgiliau beirniadaeth lenyddol a herio ein syniadau a’n rhagdybiaethau am lenyddiaeth.

Bydd y modiwl hwn yn hogi eich dealltwriaeth a’ch gallu academaidd fel y gellwch ymdrin yn ddeallus ac yn feirniadol â llenyddiaeth, ynghyd â chloriannu dadleuon a safbwyntiau amrywiol. Canolbwyntir yn bennaf ar ddarllen a dehongli ystod o weithiau llenyddol er 1900, cyfnod sy’n un o uchafbwyntiau llenyddiaeth y Gymraeg.

On completion of the module a student should be able to

  1. ymdrin ag ystod o weithiau llenyddol amrywiol yn feirniadol o safbwynt crefft, mynegiant a syniadaeth;
  2. dangos dealltwriaeth o sut y gall astudio perthynas yr awdur, testun a darllenydd gynhyrchu gwahanol ystyron neu ddehongliadau;
  3. dadansoddi llenyddiaeth Gymraeg yng nghyd-destun rhai mudiadau, cysyniadau a theorïau beirniadaeth lenyddol, gan ddefnyddio terminoleg addas;
  4. datblygu dadleuon sy’n seiliedig ar wahanol fathau o ffynonellau cynradd ac eilaidd;
  5. dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol wrth gyflwyno gwaith mewn dull proffesiynol.

How the module will be delivered

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy ddulliau dysgu cyfunol a allai gynnwys cyfuniad o gyflwyniadau ar-lein, gweithdai trafod ar-lein, gweithgareddau dysgu digidol, a sesiynau wyneb-yn-wyneb.

Skills that will be practised and developed

Wedi cwblhau’r modiwl, bydd myfyriwr nodweddiadol yn gallu

Medrau Academaidd

  • cywain gwybodaeth a’i gwerthuso er mwyn dod at gasgliadau addas
  • creu dadleuon deallus ar sail ystod o destunau cynradd ac eilaidd
  • dangos gwybodaeth addas ynghylch awduron a thestunau o’r cyfnod er 1900 yn bennaf
  • hogi sgiliau academaidd drwy elwa ar dderbyn adborth ar waith a datblygu arno

Medrau penodol y pwnc

  • dehongli tystiolaeth a thestunau llenyddol yng nghyd-destun cysyniadau neu theorïau beirniadaeth lenyddol
  • defnyddio llenyddiaeth feirniadol safonol yn y maes mewn modd dadansoddol
  • ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth
  • meddwl yn hyblyg a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ffynonellau a meysydd o wybodaeth

Medrau Cyflogadwyedd

  • arfer sgiliau wrth ymdrin â thestunau a thystiolaeth ar lafar ac ysgrifenedig
  • datblygu hyder wrth gynnull a chyflwyno gwybodaeth yn feirniadol ac yn eglur
  • monitro a gwerthuso cynnydd yn nhermau targedau penodol (rheoli amser) drwy lunio asesiadau a chanddynt amserlen benodedig (e.e. cynllunio, drafftio, prawf ddarllen)
  • dangos meistrolaeth ar Gymraeg llafar ac ysgrifenedig safonol

 

How the module will be assessed

Ffurfiannol

Bydd cyfle i gael adborth ar lafar mewn gweithdai trafod a derbyn adborth ar rai tasgau ysgrifenedig. Rhoddir adborth ysgrifenedig fesul unigolyn ar bob un darn o asesu crynodol.

Crynodol

Mae’r cyflwyniad llafar ar-lein yn hogi eich sgiliau cyfathrebu, ynghyd â meithrin sgiliau cywain gwybodaeth wrth ddehongli testun cynradd yn ei gyd-destun llenyddol, cymdeithasol a syniadol. (Deilliannau 2, 3, 4, 5).

Mae’r darn cyntaf o waith cwrs (ymateb beirniadol hyd at 800 gair) yn gofyn i fyfyrwyr ddehongli testun(au) eilaidd, a chymhwyso’r wybodaeth at drafodaeth feirniadol addas (Deilliannau 1-5).

Mae’r ail ddarn o waith cwrs (traethawd hyd at 1600 gair) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin mewn manylder ac mewn modd beirniadol ag agwedd a drafodir ar y modiwl, ynghyd â datblygu sgiliau academaidd megis ymchwilio i dystiolaeth a’i dadansoddi (Deilliannau 1-5). Byddwch yn dilyn camau penodol i gwblhau’r traethawd hwn ac yn derbyn adborth yn ystod y camau hynny.

Y potensial ar gyfer ailasesu yn y modiwl hwn

Fel rheol, bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n methu’r modiwl gael eu hailasesu drwy ailgyflwyno yr elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod arholi’r haf. Fodd bynnag, mae gan Fwrdd Arholi’r BA yr hawl i amrywio’r asesu hwn neu i benderfynu na all myfyriwr penodol ailgyflwyno.

Assessment Breakdown

Type % Title Duration(hrs)
Oral/Aural Assessment 20 Dadansoddi Testun Cynradd N/A
Written Assessment 30 Ymateb Yn Feirniadol I Destun(Au) Eilaidd N/A
Written Assessment 50 Traethawd N/A

Syllabus content

Bydd y modiwl yn ymdrin ag agweddau, cysyniadau a theorïau addas, gan gynnwys:

  • Awdur, testun a darllenydd a’u perthynas â’i gilydd
  • Sgiliau academaidd ymarferol wrth greu beirniadaeth lenyddol
  • Theorïau llenyddol, e.e. Rhyddfrydiaeth ddyneiddiol, ôl-foderniaeth a ffeminyddiaeth
  • Cymru a chenedlaetholdeb

Gall y beirdd a’r llenorion y byddwn yn eu trafod ar y modiwl gynnwys:

T. Gwynn Jones; T. H. Parry-Williams, Saunders Lewis, Kate Roberts, Waldo Williams, Caradog Prichard, Gerallt Lloyd Owen, Mihangel Morgan, Menna Elfyn, Angharad Tomos

Essential Reading and Resource List

[2020] O’r Pedwar Gwynt. [Ar-lein]. Ar gael: https://pedwargwynt.cymru/

Ashton, Glyn. 1976. Y Nofel. Yn: Bowen, Geraint. gol. Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif. Llandysul: Gwasg Gomer, tt.106-49. [Ar-lein.] Ar gael: https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1464~4p~QbzyusJs

Barry, Peter. 2008. Beginning Theory. Manchester: Manchester University Press

Bevan, Hugh. 1982. Beirniadaeth lenyddol: erthyglau gan Hugh Bevan. gol. Roberts, Brynley F. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn

Bowen, Geraint. gol. 1976. Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif. Llandysul: Gwasg Gomer. [Ar-lein.] Ar gael: https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1464~4p~QbzyusJs

Jones, John Gwilym. 1977. Swyddogaeth Beirniadaeth. Dinbych: Gwasg Gee

Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2016. Esboniadur Beirniadaeth a Theori. [Ar-lein]. Ar gael:

https://wici.porth.ac.uk/index.php/Categori:Beirniadaeth_a_Theori

Llyfrgell Genedlaethol Cymru. [2020.] Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein. [Ar-lein.] Ar gael: https://bywgraffiadur.cymru/

Marks, Rhiannon. 2013. ‘Pe gallwn, mi luniwn lythyr’: Golwg ar Waith Menna Elfyn. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru [mynediad ar-lein drwy gatalog llyfrgelloedd y Brifysgol]

Marks, Rhiannon. 2019. Crefft y Stori Fer Heddiw. [Ar-lein]. Ar gael: https://colegcymraeg.s3.eu-west-2.amazonaws.com/crefftystorifer/story_html5.html

Morgan, Derec Llwyd. 1976. Y Stori Fer. Yn: Bowen, Geraint. gol. Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif. Llandysul: Gwasg Gomer, tt.167-87. [Ar-lein.] Ar gael: https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1464~4p~QbzyusJs

Parry, Emrys. 1976. Yr Ysgrif. Yn: Bowen, Geraint. gol. Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif. Llandysul: Gwasg Gomer, tt.188-210. [Ar-lein.] Ar gael: https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1464~4p~QbzyusJs

Parry-Williams, T. H. 1965. Elfennau Barddoniaeth, pumed argraffiad. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Price, Angharad. 2002. Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Rowlands, John. gol. 1992. Sglefrio ar Eiriau. Llandysul: Gwasg Gomer. [Ar-lein.] Ar gael: https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1756~4t~UWIQjABH

________. 1993. Ysgrifau ar y Nofel. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

________ gol. 2000. Y Sêr yn eu Graddau. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru

Thomas, Owen gol. 2006. Llenyddiaeth Mewn Theori. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru


Copyright Cardiff University. Registered charity no. 1136855