CL5321: Cyfraith Tir [30]
School | Cardiff Law School |
Department Code | LAWPL |
Module Code | CL5321 |
External Subject Code | 100485 |
Number of Credits | 30 |
Level | L5 |
Language of Delivery | Welsh |
Module Leader | Professor Elen Stokes |
Semester | Double Semester |
Academic Year | 2018/9 |
Outline Description of Module
Mae’r modiwl yn cyflwyno’r myfyriwr i gysyniadau sylfaenol cyfraith tir trwy ganolbwyntio ar natur ‘eiddo’ ac ar greu, diogelu a gwaredu gwahanol ystadau a buddiannau mewn tir, rôl ffurfioldebau a systemau cofrestru, a’r rhan y mae’r gyfraith yn ei chwarae wrth reoleiddio’r defnydd ar dir.
On completion of the module a student should be able to
- Nodi, disgrifio ac esbonio’n gywir y prif egwyddorion, gwerthoedd a rheolau sydd ar waith ym maes cyfraith tir Cymru a Lloegr, gan gyfeirio at gyfraith achosion, deddfwriaeth a pholisi perthnasol
- Dangos y gallu i gymhwyso gwybodaeth er mwyn cynnig casgliadau credadwy mewn ymarferion datrys problemau (gan gynnwys problemau gwirioneddol neu ddamcaniaethol yn ymwneud â chyfraith tir)
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl, mewn cyd-destun, trwy esbonio’r berthynas rhwng meysydd sylweddol o gyfraith tir, a rhwng cyfraith tir a materion cymdeithasol a/neu bolisi ehangach
- Dadansoddi agweddau penodol ar gyfraith tir, gan dynnu ar amrywiaeth o ffynonellau gwahanol gan gynnwys cyfraith achosion, deddfwriaeth, trafodaethau ar bolisi ac erthyglau o gyfnodolion academaidd
How the module will be delivered
Cymysgedd o ddarlithoedd a thiwtorialau
Skills that will be practised and developed
Trwy gydol y modiwl, bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu ac ymarfer y medrau deallusol, ymarferol a throsglwyddadwy sy’n briodol i ddeilliannau dysgu Lefel 5, fel:
- Adnabod materion o safbwynt eu perthnasedd a’u pwysigrwydd, a gosod y rhain yn nhrefn pwysigrwydd.
- Defnyddio dulliau ac offer ymchwil gyfreithiol priodol yn annibynnol i nodi deunyddiau sylfaenol ac eilaidd sy’n ategu rhestri darllen a deunyddiau sy’n cael eu haddysgu.
- Dwyn ynghyd wybodaeth a deunyddiau o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol, a llunio cyfosodiad o faterion athrawiaethol a pholisi perthnasol yn ymwneud â phob pwnc.
- Gwerthuso rhinweddau dadleuon penodol a gwneud dewisiadau rhesymegol rhwng gwahanol ddeilliannau neu atebion amgen i broblemau.
- Cyflwyno gwybodaeth neu ddadl, ar lafar neu yn ysgrifenedig, mewn ffordd sy’n glir, yn wybodus ac sy’n ddealladwy i bobl eraill
- Ar brosesydd geiriau, llunio darn o waith cwrs crynodol ar bwnc y gwnaed ymchwil annibynnol iddo.
- Defnyddio systemau adalw gwybodaeth electronig, fel Westlaw UK, HeinOnline, Hansard ac ati.
- Gwneud cyfraniadau llafar yn fyrfyfyr ac wedi’u paratoi ymlaen llaw at bob tiwtorial.
- Myfyrio ar ei ddysgu ei hun trwy fesur cynnydd yn ôl deilliannau dysgu’r modiwl, a defnyddio adborth i nodi a goresgyn gwendidau mewn perfformiad.
How the module will be assessed
Arholiad nas gwelir ymlaen llaw 100% 3awr
Assessment Breakdown
Type | % | Title | Duration(hrs) |
---|---|---|---|
Exam - Spring Semester | 100 | Cyfraith Tir [30] - Exam | 3 |
Syllabus content
Yn nodweddiadol, mae’r meysydd astudio yn cynnwys:
- Cysyniadau sylfaenol cyfraith tir.
- Cydberchnogaeth ar dir ac ymddiriedolaethau tir.
- Caffael buddiannau yng nghartref y teulu.
- Cofrestru tir.
- Prydlesi a thrwyddedau.
- Hawddfreintiau.
- Cyfamodau rhydd-ddaliadol.
- Morgeisi.
- Meddiant gwrthgefn.
Essential Reading and Resource List
Bydd manylion y testunau a argymhellir ar gael ar ddechrau’r modiwl. I baratoi ar gyfer pob tiwtorial, yn ychwanegol at ddarlleniadau penodedig o’r testunau a argymhellir, bydd hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr ddarllen achosion penodedig, sylwebaethau ac erthyglau academaidd, ac adroddiadau swyddogol (gan gynnwys cynigion gan Gomisiwn y Gyfraith).
Background Reading and Resource List
Yn ogystal â chwblhau tasgau darllen hanfodol wrth baratoi ar gyfer sesiynau tiwtorial, disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd â darllen pellach i hyrwyddo eu dysgu eu hunain. Bydd rhestrau darllen pellach ar gael yn ystod y modiwl.